Pobl Ifanc, Technolegau Symudol a Rhyngrwyd 2008 - Uchafu Cyfleoedd, Taclo Heriau

Dyddiad: Dydd Llun Hydref 20, 2008 - Lleoliad: Canolfan Datblygu Richard Ley , Abertawe

Bywgraffiadau Siaradwyr

Ann Beynon, Cyfarwyddwr Cymru BT

Ymunodd Ann â BT ym mis Mehefin 1998, fel Rheolwr Cenedlaethol, gyda’r cyfrifoldeb penodol o ddatblygu a gweithredu strategaeth y cwmni ar gyfer Cymru. Yng Ngorffennaf 2004 cafodd ei phenodi’n Gyfarwyddwr Cymru.

Fel un o’r ychydig wragedd sydd yn weithredwyr uwch yng Nghymru, mae Ann yn adnabyddus yn y gymuned fusnes ac, ym mis Chwefror 1999, cafodd ei phenodi’n aelod o’r Comisiwn Brenhinol ar gyfer diwygio Tŷ’r Arglwyddi dan Arglwydd   Wakeham. Cyn iddi ymuno â BT, roedd Ann yn gyflogedig fel Cyfarwyddwr Datblygiad Busnes gyda Chorfforaeth Datblygu Bae Caerdydd. Cyn hynny, bu’n dal nifer o swyddogaethau allweddol o fewn gwasanaeth darlledu S4C. 

Mae Ann yn cynrychioli Busnes Cymru ar y Pwyllgor Monitro Rhaglenni dros Orllewin Cymru a’r Cymoedd ac yn aelod o Gyngor CBI Cymru. Bu’n aelod o bwyllgor Cymru o Gomisiwn Cyfle Cyfartal Cymru hyd at fis Medi 2007. Hi yw Cadeirydd Pwyllgor Ymgynghorol Cymru Busnes yn y Gymuned ac mae hi’n gyfarwyddwr ar Busnes yn y Gymuned y DU. Mae hi hefyd yn gyfarwyddwr an-weithredol ar Gyfle Cymru, prosiect eFasnach sydd yn cefnogi busnesau yng Nghymru i ymgodymu â thechnolegau busnes newydd. Daeth yn aelod o Gyngor Prifysgol Cymru, Bangor yn Ebrill 2004. Graddiodd hefyd ym Mhrifysgol Bangor, lle bu’n astudio ieithoedd, gan ennill gradd dosbarth cyntaf yn y Gymraeg. Mae hi’n briod, a chanddi ddau o blant ac mae hi’n byw yng Nghaerdydd. Dyfarnwyd OBE iddi yn Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd 2008 am ei chyfraniad i’r byd busnes.

Sangeet Bhullar, Cyfarwyddwr Gweithredol, WISE KIDS

Sangeet yw Sylfaenydd a Chyfarwyddwr Gweithredol WISE KIDS, mudiad di-elw sydd yn darparu rhaglenni hyfforddi arloesol ac ymgynghoriaeth mewn Cyfryngau Newydd, Technolegau Rhyngrwyd a Symudol, Hyfedredd, Llythrennedd a Diogelwch ar y Rhyngrwyd. Yn Frodores Digidol hŷn, wedi’i hyfforddi i fod yn Beiriannydd Trydanol, mae hi’n credu’n gryf ym mhotensial technolegau Rhyngrwyd a Symudol i weddnewid dysgu, pobl ifanc , cymuned a datblygiad busnes.

Mae WISE KIDS yn cydweithio gydag ystod o bartneriaid gan gynnwys Ysgolion, Colegau, Mudiadau Ieuenctid, Prosiectau Cymunedol, Sefydliadau yn y Sectorau Preifat a Chyhoeddus. Mae
Sangeet hefyd yn aelod o nifer o grwpiau llywodraeth a di-lywodraeth lle bydd hi’n hybu Cynhwysiad Digidol a Llythrennedd Cyfryngau Newydd. Mae’r rhain yn cynnwys grŵp Ymgynghorol Llywodraeth Cynulliad Cymru Communities @One, WISP- Partneriaeth Diogelwch y Rhyngrwyd Cymru, Cyngor y DU dros Ddiogelwch Plant ar y Rhyngrwyd sydd newydd gael ei ffurfio a Chyngor Darlledu (Cynulleidfa) BBC Cymru. Mae hi wedi siarad mewn cynadleddau, mae hi’n arholwr allanol ac wedi ysgrifennu canllawiau a darparu hyfforddiant ar draws Prydain, Singapore a Malaysia.

Mark Blois, Cyfreithiwr, Browne Jacobson

Mae Mark yn bartner gyda Browne Jacobson yn  swyddfa’r cwmni yn Nottingham. Ef sydd yn arwain tîm addysg y cwmni gan ddarparu cyngor i ysgolion, colegau ac Awdurdodau Lleol.

Caiff Mark ei gydnabod fel arweinydd yn ei faes o fewn Chambers a Legal 500, mae’n aelod o Bwyllgor Gweithredol Cymdeithas Cyfraith Addysg ac yn lywodraethwr Awdurdod Lleol mewn ysgol arbennig yn Nottingham.

Mae’n ysgrifennu llawer ar gyfraith addysg a chyhoeddwyd dros 60 o’i erthyglau mewn cyhoeddiadau cenedlaethol. Mae hefyd wedi ysgrifennu penodau ar gyfer Llawlyfr Cyfraith Addysg Optimus, Cwrs Dysgu o Bell ar Gyfraith Addysg yr IBC a Llawlyfr Anghenion Addysgol Arbennig Croner. Cafodd hefyd ei benodi’n ddiweddar yn aelod o gyngor rhanbarthol y Cyngor Dysgu a Sgiliau.

Alan Davies, Cadeirydd y Gynhadledd

Er iddo gael ei eni yn Llundain ym 1955, Cymro Cymraeg yw Alan a’i wreiddiau’n ddwfn yng Ngorllewin Cymru. Mae yn awr yn byw yng Nghaerdydd, yn ŵr balch i Mari, a thad balch i ddau fab, Tomos a Tecwyn sydd ill dau ar hyn o bryd ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth (2008).

Treuliodd Alan ddeunaw mlynedd yn y Fyddin cyn dechrau ar yrfa busnes llwyddiannus yng Nghymru pan ddaeth yn gysylltiedig ag arwain sefydlu busnesau amrywiol a hynny’n arwain at greu rai cannoedd o swyddi mewn cwmnïau technoleg uwch.

Yn ystod un o’r swyddogaethau hyn ef oedd cynrychiolydd NTL a Virgin Net ar Sefydliad Gwarchod y Rhyngrwyd ac mae ganddo ddiddordeb personol mawr yn y defnydd o dechnoleg mewn bywyd busnes a phersonol. Mae’n sylwebu’n rheolaidd ar deledu a radio ar nifer o faterion, yn bennaf yn gysylltiedig â’i brofiad milwrol a’i ddealltwriaeth o dechnoleg.

Tim Davies, Cyfranogiad Ymarferol

Ymgynghorydd, ymchwilydd ac entrepreneur cymdeithasol annibynnol yw Tim Davies sydd yn canolbwyntio ar brosiectau cysylltiedig â gwaith ieuenctid; ymrwymiad a chyfranogiad dinesig; technolegau cymdeithasol; ac ymgyrchu dros newid cymdeithasol. Yn dilyn ennill gradd mewn Gwleidyddiaeth, Athroniaeth ac Economeg bu am bedair blynedd yn gweithio gyda’r Asiantaeth Ieuenctid Cenedlaethol fel hyfforddwr ac ymgynghorydd ar gyfranogiad pobl ifanc; chwe mlynedd yn rhedeg ymgynghoriaeth datblygu gwefan a TGCh ar gyfer y sector di-elw; dwy flynedd yn canolbwyntio ar hyfforddiant ac ymchwil ar y defnydd o offer cyfryngol cymdeithasol ar gyfer cydweithio a newid cymdeithasol; chwe mis fel rheolwr cyfathrebu i siop Fairtrade; a chyfanswm o  23 mlynedd fel ef ei hun, nid yw Tim eto wedi dysgu’r grefft o ysgrifennu cofiant. Yn lle hynny, mae’n ei chael hi’n haws i bwyntio at  http://www.timdavies.org.uk neu http://www.twitter.com/timdavies
 
John Davitt, Prif Siaradwr

Mae John Davitt yn ysgrifennwr, darlledwr ac arbenigwr ar dechnoleg mewn addysg. Bu’n gweithio yn y sector addysg am y pum mlynedd ar hugain diwethaf fel athro Saesneg, rheolwr uwch ac ymgynghorydd rhanbarthol gyda Prosiect Dysgu Hyblyg yr UE. Fel newyddiadurwr mae’n ysgrifennu ar gyfer y Guardian, y Times a’r Observer, gydag erthygl rheolaidd yn y Guardian Addysg. Mae John wedi cydweithio’n helaeth ag athrawon mewn ysgolion yn y DU, Tsheina ac Affrica ac mae’n ymroddedig i lefelu’r sefyllfa wrth ystyried mynediad i gyfleoedd dysgu newydd. Ef yw awdur y llyfr “New Tools for Learning” (2006) canllaw ymarferol ar sut i wneud i’r dechnoleg ffitio’r anghenion dysgu, a’r CD WordRoot , canllaw rhyngweithiol i eiriau a’u tarddiad. Yn ddiweddar mae wedi datblygu The Learning Score, offeryn sydd yn caniatáu i athrawon fapio allan a rhannu bwriadau dysgu fel digwyddiad graffigol – braidd fel sgôr cerddoriaeth. Cyhoeddir ei lyfr newydd "Setting Learning Free - The Difference Engine runs again" ym mis Rhagfyr 2008.

Josh Dhaliwal, Cyd-sylfaenydd mobileYouth

Cyd- sefydlodd Josh mobileYouth wyth mlynedd yn ôl ar ôl treulio nifer o flynyddoedd yn cynhyrchu darllediadau ar gyfer teledu a chyfryngau newydd.

Mae ei ddiddordeb mewn cyfryngau diwifr yn deillio o’i waith cysylltiedig â darlledu newyddion ITN lle bu’n gweithio gyda gweithredwr rhwydwaith Orange y DU ar ddatblygiad a strategaeth ar gyfer lansio eu cludwyr rhyngrwyd arlein a symudol yn ogystal â gwasanaeth newyddion symudol cyntaf Ewrop.

Mae Josh yn siaradwr a sylwebydd rheolaidd ar y pwnc pobl ifanc a thechnoleg, pwnc y mae ef wedi cadeirio sawl cynhadledd ddiwydiannol arno yn ogystal â bod yn arbenigwr ar gyfer y cyfryngau. Mae ei gredydau cyfryngol yn cynnwys ymddangosiadau ar CNN, Newyddion Sky , Newyddion Brecwast y BBC, Tonight with Trevor McDonald a Radio BBC.

Will Gardner, Dirprwy CEO, Childnet Rhyngwladol

Elusen Plant Cenedlaethol yw Childnet Rhyngwladol (a sefydlwyd ym 1995) sydd yn gweithio i gynorthwyo i wneud y Rhyngrwyd yn lle gwych a diogel i blant (gweler www.childnet.com ). Yn ogystal â dangos y ffyrdd anhygoel y bydd plant yn defnyddio technoleg newydd er daioni mae Childnet yn gweithio i ymateb i’r risgiau posibl sydd yn wynebu plant drwy dechnoleg newydd, a chynnal ymgyrchoedd ymwybyddiaeth ar ddiogelwch y Rhyngrwyd, ac mae’n cyfrannu at ddatblygiad polisi yn y maes hwn.

Bu Will Gardner yn rhan o Childnet ers  mis Hydref 2000, gan weithio ym maes ymchwil a pholisi. Mae Will yn aelod o Gyngor y DU ar Ddiogelwch Plant ar y Rhyngrwyd (a chyn hynny ar Dasglu’r Swyddfa Gartref ar ddiogelu plant ar y Rhyngrwyd), a bu’n rhan o’r grŵp fu’n llunio’r ‘Good Practice Guidance for Industry’ ar gyfer darparwyr moddau i sgwrsio, negeseua sydyn, chwilio a darparwyr rhwydwaith cymdeithasol. Ef hefyd sydd yn edrych ar ôl y wefan www.chatdanger.com , ac mae wedi rhoi cyngor i filoedd o blant ac oedolion sydd wedi cysylltu ag ef drwy’r wefan ‘chatdanger’ ar faterion yn ymwneud â diogelwch ar y Rhyngrwyd. Mae Will hefyd wedi rhoi cyngor i nifer o chwaraewyr y diwydiant a llywodraethau, yn ogystal â sefydliadau eraill, ar faterion yn ymwneud â diogelwch ar y rhyngrwyd.

Mae Will wedi rhedeg sawl prosiect rhyngwladol ar blant a’r rhyngrwyd, yn cynnwys y risgiau a’r cyngor sydd ei angen ar gyfer gwasanaethau rhyngweithiol, ac adnabod dioddefwyr sy’n blant mewn delweddau camdrin plant arlein. Mae’n aelod o Dasglu Seiberfwlio y DU o’r Adran Plant, Ysgolion a Theuluoedd (DCSF). Mae’n ddiweddar wedi arwain y gwaith ar lunio canllaw’r DCSF ar gyfer ysgolion ar rwystro ac ymateb i seiberfwlio.a’r
DVD sy’n cydfynd ‘Let’s Fight it together’, gweler www.digizen.org. Mae hefyd yn ddiweddar wedi cyd ysgrifennu’r adroddiad The Fair Game? sydd yn edrych ar faint a natur masnacheiddiwch ar hoff wefannau plant  ac amgylcheddau arlein, gweler http://www.childnet-int.org/downloads/fair-game-final.pdf

Ruth Hammond, Rheolwr Diogelu Rhaglenni, Becta

Mae Ruth yn athrawes raddedig â phrofiad ganddi o’r sectorau cynradd, uwchradd ac Addysg Bellach. Ers iddi ymuno â Becta yn 2002 mae ei gwaith wedi golygu cydweithio ag ystod eang o asiantaethau cenedlaethol, adrannau llywodraeth a chymdeithasau pwnc ar ymarfer effeithlon wrth ddefnyddio TGCh. Ers 2003 mae Ruth wedi canolbwyntio yn ei gwaith ar gyngor ac arweiniad Becta ar Ddiogelwch y Rhyngrwyd, gan gynrychioli  Becta ar Dasglu’r Ysgrifennydd Cartref ar Ddiogelu Plant ar y Rhyngrwyd a’r Grŵp Llythrennedd Cyfryngol Seneddol Cysylltiol. Mae hi wedi caael gwahoddiad i gynrychioli Becta ar Gyngor y DU ar Ddiogelwch Plant ar y Rhyngrwyd a sefydlwyd fel canlyniad i Adolygiad Byron. Cafodd Ruth ei secondio i CEOP cyn eu lansio ac mae hi’n dal i weithio’n agos gyda’u tîm Addysg ac asiantaethau allweddol eraill gan ymdrechu i sicrhau diogelwch plant arlein. Yn ddiweddar bu’n gweithio’n agos gydal TDA, Childnet Rhyngwladol a Microsoft i gynhyrchu hyfforddiant e-ddiogelwch arlein ac adnoddau Datblygiad Proffesiynol Parhaus ar gyfer athrawon dan hyfforddiant a rhai profiadol. Cafodd ei gwahodd gan UCLAN i fod yn arholwr allanol ar banel dilysu Tystysgrif y Brifysgol ar Ddiogelwch Plant ar y Rhyngrwyd.

Helen Penn, Pennaeth Addysg, CEOP sef Camfanteisio ar Blant a’u Hamddiffyn Arlein

Mae Helen wedi gweithio’n helaeth ar ddiogelu plant a’r arena diogelwch y rhyngrwyd yn y DU a’r byd datblygol. Gyda chefndir mewn dysgu a gwaith gyda phobl ifanc, ymunodd â Childnet Rhyngwladol yn 2003 i reoli eu rhaglenni addysg ac estyn allan cyn cael ei secondio i’r Sgwad Troseddau Cenedlaethol yn 2005. Yma, rhoddodd arweiniad ar ddatblygu Rhaglen Addysgol ar gyfer y Tasglu Bydeang Rhithiol a chreu agenda ‘Thinkuknow’ y CEOP.

Mae Helen yn awr yn bennaeth ar Adran Addysg y CEOP, yn creu rhaglenni newydd a rhai sydd wedi ennill gwobrau ar gyfer pobl ifanc, rhieni, addysgwyr a gweithwyr proffesiynol gan ddefnyddio gwybodaeth yn deillio o achosion cenedlaethol a rhyngwladol. Mae Helen hefyd yn aelod o Dasglu’r Ysgrifennydd Cartref ar Ddiogelu Plant arlein.

DK, Sylfaenydd, MediaSnackers

DK yw sylfaenydd MediaSnackers. Lluniodd y term MediaSnackers yn gynnar yn 2006 wrth ddisgrifio’r hyn oedd pobl ifanc yn ei wneud gyda’r cyfryngau —lansiwyd y wefan rai misoedd yn ddiweddarach ym mis Mehefin. Mae ganddo gefndir addysgol mewn cyfathrebu a’r cyfryngau, yn ogystal â chefndir proffesiynol mewn llywodraeth leol (ef oedd y cyntaf a’r unig Swyddog Ieuenctid Corfforaethol!)  Mae wedi cyflawni llawer ac wedi dal nifer o swyddogaethau, ond ei gariad at weithio gyda phobl ifanc ( a gweithwyr proffesiynol ifanc) sydd wedi bod yn brif ganolbwynt i’w waith dros yr wyth mlynedd diwethaf. MediaSnackers yw ei ‘fat a’i bêl’—ydych chi awydd gêm?


Fiona Lennox, Ofcom

Ers iddi ymuno â thîm llythrennedd cyfryngol Ofcom fel gweithredwr polisi yn 2006, bu Fiona yn gyfrifol am ddatblygu rhaglen gynhwysfawr o ymchwil i lythrennedd cyfryngol. Roedd ganddi ran bwysig yn natblygiad y Fforwm Ymchwil ar Lythrennedd Cyfryngol Rhyngwladol fu mor llwyddiannus ac mae hi’n parhau  i fod yn un o arbenigwyr blaenaf y DU ar ymchwil i lythrennedd cyfryngol, gan roi cyflwyniadau ar hyd y DU ac Ewrop.

Ofcom yw’r awdurdod rheoleiddio a chystadleuaeth annibynnol ar gyfer diwydiannau cyfathrebu’r DU, â chyfrifoldebau ar draws gwasanaethau teledu, radio, telathrebu a chyfathrebiadau diwifr.Mae gan Ofcom ddyletswydd i hybu llythrennedd cyfryngol dan Ddeddf Cyfathrebu 2003.

Wedi bod yn Bennaeth Safonau Comisiwn Safonau Darlledu, ymunodd Fiona ag Ofcom yn 2003. Mae ganddi radd mewn Gwyddoniaethau Cymdeithasol a Gwleidyddol o Brifysgol Caergrawnt  a dyfarnwyd Bwrsariaeth Ymddiriedolaeth Cysylltiadau’r Gymanwlad iddi i astudio darlledu ym Malaysia.
 

Victoria Read, Pennaeth Materion Llywodraeth a Rheoleiddio, Bebo

Pennaeth Materion Llywodraethu a Rheoleiddio Bebo yw Victoria, yn cwmpasu meysydd polisi megis diogelwch y rhyngrwyd, hysbysebu, rheoleiddio cynnwys a llythrennedd  cyfryngol. Ymunodd â Bebo ym mis Hydref 2007 ar ôl treulio dwy flynedd ar Grŵp Rhanddeiliaid Band llydan (BSG) – grŵp ymgynghorol llywodraeth y DU ar fand llydan – lle roedd hi’n arwain y rhaglen waith ar bolisi cyfryngol digidol.

Cyn ymuno â’r BSG, treuliodd Victoria dair mlynedd gyda Chymdeithas y Cyhoeddwyr, gan gynrychioli cyhoeddwyr addysgol ac academaidd o flaen y llywodraeth a rhanddeiliaid eraill, a chychwyn ei gyrfa yn y byd cyhoeddi. Mae hi’n raddedig o Brifysgol Sheffield a chanddi radd MA o Brifysgol Brookes Rhydychen. 

Kieron Sheehy

Mae’r Dr Kieron Sheehy wedi’i leoli gyda’r Brifysgol Agored. Mae ganddo gefndir mewn seicoleg addysgol a diddordeb penodol mewn dysgu plant â chanddynt anawsterau dysgu difrifol, cynhwysiad, pedagogeg a thechnolegau newydd. Ef oedd un o sylfaenwyr Schome, grŵp a wnaeth ddefnydd helaeth o fydoedd rhithiol, megis Parc Schome, ynys yn y ‘Teen Grid of Second Life’. Nod hyn yw rhoi i bobl ‘brofiad wedi’i fyw’ o fodelau addysg hollol wahanol.

Mae Kieron wedi ymchwilio iddo ac ysgrifennu am ddysgu mewn bydoedd rhithiol a’r pynciau a’r cyfleoedd sydd yn codi fel canlyniad. Mae’r ymchwil a wneir ganddo ar hyn o bryd yn edrych ar y modd y mae’r ffiniau rhwng ‘rhithiol traddodiadol’ a’r bydoedd real yn chwalu fel yr ydym yn symud tuag at realitioedd estynedig, a’r effaith allai hyn gael ar addysg.

Keith Towler, Comisiynydd Plant Cymru

Ganwyd Keith Towler yn Llundain a daeth i Gymru fel plentyn pan symudodd i Gaerdydd.  Enillodd radd yn y Celfyddydau Cain ym Mhrifysgol Exeter ac yna daeth yn Gynorthwy-ydd Gwaith Cymdeithasol i Gyngor Sir De Morgannwg. Mae llwybr ei yrfa wedi rhoi iddo gefndir cryf mewn gwaith gyda phobl ifanc, cyfiawnder i’r ifanc a hawliau plant. Ymunodd â NACRO (yr elusen lleihau troseddu) yn 1998 fel Pennaeth NACRO Cymru a daeth yn Gyfarwyddwr Lleihau Troseddu NACRO (Cymru a Lloegr) yn 2001.

Cyn iddo gael ei benodi i swydd Comisiynydd Plant Cymru ym mis Mawrth 2008, roedd yn Gyfarwyddwr Rhaglenni ar gyfer Rhaglen Cymru o Achub y Plant am ddwy flynedd a Chadeirydd Grŵp Monitro Cymru ar Hawliau Plentyn (UNCRC) yng Nghynhadledd y Cenhedloedd Unedig.

Mae Keith yn byw yn Llandeilo gyda’i bartner a’u mab a’u merch.
 

 
 
 

 

[credits] [privacy policy] [disclaimer]
Copyright © 2002-2008 WISE KIDS. All rights reserved.
Company No. 4572181.
Site hosted free courtesy of www.4uhosting.co.uk.

.