|
8.15am |
Coffi a chofrestru |
|
9.00am |
Anerchiad croesawu i’r gynhadledd gan Alan Davies, y Cadeirydd
a’r MS ar gyfer y Gynhadledd |
|
9.10am |
Llythrennedd Digidol mewn tirlun sy’n newid -
Sangeet Bhullar, WISE KIDS |
|
10.00am |
Anerchiad y Gweinidog gan Leighton Andrews AC, Gweinidog dros
Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes |
|
10.10am |
Prif
Anerchiad gan yr Athro
Tanya Byron wedi’i recordio ar fideo |
|
10.30am |
Tri Chyflwyniad gan Aelodau y Panel Ieuenctid o Ysgol Gyfun
Maesteg, Ysgol Llangynwyd a Phrosiect Ieuenctid Butetown
|
|
10.45am |
EGWYL |
|
11.00am |
Rôl y Ganolfan Ymelwa ar Blant a Gwarchod Ar-lein gan
Helen Penn |
|
11.20am |
Holi ac
Ateb: Panel Pobl Ifanc |
|
11.40am |
"Dim Byd!"...Bydoedd Rhithwir: Beth Mae Plant yn Wneud mewn
Meysydd Chwarae Ar-lein gan
Rebecca Newton, Moshi Monsters |
|
12.00pm |
“Tu ôl
i’r llenni: safoni mannau ar-lein plant a phobl ifanc” gan
Tamara Littleton, eModeration |
|
12.15pm |
Deall Ffyrdd o Fyw Digidol – sgiliau llythrennedd cyfryngol
plant a phobl ifanc gan
Fiona Lennox, Ofcom |
|
12.25pm |
Drama
gan ddisgyblion o Ysgol y Preseli |
|
12.40pm |
CINIO |
|
Cyfres o Weithdai A
1.30pm
- 2.35pm |
|
1: Sesiwn Cyflwyno a Thrafod a gadeirir gan
Christina Preston
Geoff Elliott: Ystyried pa mor effeithiol yw technoleg symudol i
ail ddenu diddordeb yn y rhai sydd wedi colli pob diddordeb
Rhoddodd y prosiect ‘mlearning’ ffonau-PDA sef Cynorthwywyr
Digidol Personol arloesol ar fenthyg i NEETS 16-24 oed, pobl
ifanc nad ydyn nhw mewn addysg, cyflogaeth nac hyfforddiant.
Datblygwyd methodoleg dros y cyfnod prosiect o dair blynedd o
fentora pobl ifanc drwy SMS y Gwasanaeth Neges Byr, llais,
rhaglenni fformat-symudol, a gosod adnoddau amlgyfrwng.
Gwnaethom gamgymeriadau ond dysgwyd llawer am beth sy’n gweithio
a’r hyn sydd ddim yn gweithio. Bydd y sesiwn hwn yn edrych yn
fanylach ar y pwyntiau hyn a mwy.
Leon Cych: Y defnydd o Drochi (neu Fydoedd Rhithwir) i ddenu
diddordeb dysgwyr
Yn y gweithdy hwn bydd Leon yn amlinellu ac archwilio amrywiol
ddefnydd o Fydoedd Rhithwir. Bydd yn amlinellu’r hyn fydd raid i
chi ei wneud i fapio’ch prosiect a chodi diddordeb dysgwyr mewn
Amgylchedd Trochi; y peryglon i’w hosgoi, y cynllunio a’r
isadeiledd sydd ei angen er mwyn i bopeth fynd yn esmwyth. Bydd
yn tynnu ar ddigon o enghreifftiau o batrymau ar fideo o
brosiectau a gynhaliwyd gan addysgwyr eraill gan eu rhoi a
chysylltu â nifer o batrymau sydd ar-lein.
|
|
2: Sesiwn Cyflwyno a Thrafod a gadeirir gan Tim Davies
Gavin Evans ac Angharad Jenkins: Prosiect Brawd Mawr Abertawe
gan Wasanaeth Ieuenctid Abertawe ac Urdd/Menter Iaith Abertawe
Yn y sesiwn hon, bydd Gavin Evans o Wasanaeth Ieuenctid Abertawe
ac Angharad Jenkins o’r Urdd/ Menter Iaith Abertawe yn rhannu’r
profiadau a gawson nhw wrth gynnal digwyddiad brawd mawr ‘byw’
ar gyfer grwpiau gwahanol o bobl ifanc yn Abertawe gyda blog byw
yn ategu at y cyfan. Byddan nhw’n rhannu’r symbyliadau fu tu ôl
i’r prosiectau, y cynllunio a’r cyflwyno, rhai canlyniadau
annisgwyl a’r profiadau cadarnhaol niferus a gawson nhw allan
o’r cyfan.
Tim Davies: Gwneud i Waith Ieuenctid Digidol Weithio
Archwilio’r dimensiynau gwahanol sydd i waith ieuenctid digidol
– o gydnabod a deall sut y dylai ymarferwyr fod yn ymwybodol o
effeithiau’r Rhyngrwyd yn eu hymarfer a’u gweithgareddau bob
dydd, i synied am ffyrdd newydd o weithio drwy dechnolegau
digidol. Bydd y sesiwn yn archwilio amrywiaeth o senarios lle
bydd offer digidol a gwaith gyda phobl ifanc yn gwrthdaro, ac yn
cynnig y cyfle i gyfranogwyr archwilio rhai o’r materion
ymarferol y mae angen i unrhyw un sy’n gweithio gyda phobl ifanc
roi ystyriaeth iddynt.
|
|
3: Sesiwn Cyflwyno a Thrafod a gadeirir gan Sangeet Bhullar
Ruth Hammond: Mesurau Ymarferol mewn eDdiogelu
Yn y sesiwn hon bydd Ruth yn archwilio pa brosesau y mae angen i
ysgolion a mudiadau neu sefydliadau eraill sy’n gweithio gyda
phobl ifanc eu sefydlu er mwyn rhoi grym i bobl ifanc a’u
diogelu.
Anne Stoker:
E-ddiogelwch - Perspectif Awdurdod Lleol – Creu Datrysiad
Ymarferol
Bydd y sesiwn hon yn disgrifio sut y cafodd y strategaeth e-ddiogelwch
ar gyfer Ysgolion Castell-Nedd Port Talbot ei chreu. Bydd yn
canolbwyntio ar y modd y creodd Castell-Nedd Port Talbot
ddatrysiad oedd yn gweddu i bawb oedd yn rhanddeiliaid, a
hynny’n caniatáu hyblygrwydd ar gyfer dysgu ac addysgu.
Sangeet Bhullar: Rhaglen Ymwybyddiaeth o’r Rhyngrwyd Bl.7 Pen-y-bont
ar Ogwr
Bydd y sesiwn hon yn cyflwyno trosolwg o’r hyfforddiant a
roddwyd gan WISE KIDS i ddisgyblion Blwyddyn 7 mewn 10 ysgol yn
ardal Pen-y-bont ar Ogwr, ac adnabod rhai prif fylchau yng
ngwybodaeth ac ymwybyddiaeth pobl ifanc o ddiogelwch digidol a’r
Rhyngrwyd.
|
|
EGWYL 2.40pm - 3pm |
|
Cyfres Weithdai B
3.00pm - 4.05pm |
|
1: Sesiwn Cyflwyno a Thrafod a gadeirir gan
Christina Preston
Geoff Elliot: Myfyrio ar ba mor effeithiol yw technoleg symudol
i ail ddenu diddordeb yn y rhai sydd wedi colli pob diddordeb.
Rhoddodd y prosiect ‘mlearning’ ffonau-PDA datblygedig sef
Cynorthwywyr Digidol Personol arloesol ar fenthyg i NEETS 16-24
oed,pobl ifanc nad ydyn nhw mewn addysg, cyflogaeth nac
hyfforddiant. Datblygwyd methodoleg dros y cyfnod prosiect o
dair blynedd o fentora pobl ifanc drwy SMS y Gwasanaeth Neges
Byr, llais, rhaglenni fformat-symudol, a gosod adnoddau
amlgyfrwng. Gwnaethom gamgymeriadau ond dysgwyd llawer am beth
sy’n gweithio a’r hyn sydd ddim yn gweithio. Bydd y sesiwn hwn
yn edrych yn fanylach ar y pwyntiau hyn a mwy.
Leon Cych: Y defnydd o Drochi (neu Fydoedd Rhithwir) i ddenu
diddordeb dysgwyr
Yn y gweithdy hwn bydd Leon yn amlinellu ac archwilio amrywiol
ddefnydd o Fydoedd Rhithwir. Bydd yn amlinellu’r hyn fydd raid i
chi ei wneud i fapio’ch prosiect a chodi diddordeb dysgwyr mewn
Amgylchedd Trochi; y peryglon i’w hosgoi, y cynllunio a’r
isadeiledd sydd ei angen er mwyn i bopeth fynd yn esmwyth. Bydd
yn tynnu ar ddigon o enghreifftiau o batrymau ar fideo o
brosiectau a gynhaliwyd gan addysgwyr eraill gan eu rhoi a
chysylltu â nifer o batrymau sydd ar-lein.
|
|
2: Sesiwn Cyflwyno a Thrafod a gadeirir gan Tim Davies
Gavin Evans ac Angharad Jenkins: Prosiect Brawd Mawr Abertawe
gan Wasanaeth Ieuenctid Abertawe ac Urdd/Menter Iaith Abertawe
Yn y sesiwn hon, bydd Gavin Evans o Wasanaeth Ieuenctid Abertawe
ac Angharad Jenkins o’r Urdd/ Menter Iaith Abertawe yn rhannu’r
profiadau a gawson nhw wrth gynnal digwyddiad brawd mawr ‘byw’
ar gyfer grwpiau gwahanol o bobl ifanc yn Abertawe gyda blog byw
yn ategu at y cyfan. Byddan nhw’n rhannu’r symbyliadau tu ôl i’r
prosiectau, y cynllunio a’r cyflwyno, rhai canlyniadau annisgwyl
a’r profiadau cadarnhaol niferus a gawson nhw allan o’r cyfan.
Tim
Davies: Gwneud i Waith Ieuenctid Digidol Weithio
Archwilio’r dimensiynau gwahanol sydd i waith ieuenctid digidol
– o gydnabod a deall sut y dylai ymarferwyr fod yn ymwybodol o
effeithiau’r Rhyngrwyd yn eu hymarfer a’u gweithgareddau bob
dydd, i synied am ffyrdd newydd o weithio drwy dechnolegau
digidol. Bydd y sesiwn yn archwilio amrywiaeth o senarios lle
bydd offer digidol a gwaith gyda phobl ifanc yn gwrthdaro, ac yn
cynnig y cyfle i gyfranogwyr archwilio rhai o’r materion
ymarferol y mae angen i unrhyw un sy’n gweithio gyda phobl ifanc
roi ystyriaeth iddynt.
|
|
3: Sesiwn Cyflwyno a Thrafod a gadeirir gan Sangeet Bhullar
Ruth Hammond: Mesurau Ymarferol mewn eDdiogelu
Yn y sesiwn hon bydd Ruth yn archwilio pa brosesau y mae angen i
ysgolion a mudiadau neu sefydliadau eraill sy’n gweithio gyda
phobl ifanc eu sefydlu er mwyn rhoi grym i bobl ifanc a’u
diogelu.
Anne Stoker:
E-ddiogelwch - Pyrspectif Awdurdod Lleol – Creu Datrysiad
Ymarferol
Bydd y sesiwn hon yn disgrifio sut y cafodd y strategaeth e-ddiogelwch
ar gyfer Ysgolion Castell- Nedd Port Talbot ei chreu. Bydd yn
canolbwyntio ar y modd y creodd Castell-Nedd Port Talbot
ddatrysiad oedd yn gweddu i bawb oedd yn rhanddeiliaid, a
hynny’n caniatáu hyblygrwydd ar gyfer dysgu ac addysgu.
Sangeet Bhullar:
Rhaglen Ymwybyddiaeth o’r Rhyngrwyd Bl.7 Pen-y-bont ar Ogwr
Bydd y sesiwn hon yn cyflwyno trosolwg o’r hyfforddiant a
roddwyd gan WISE KIDS i ddisgyblion Blwyddyn 7 mewn 10 ysgol ym
Mhen-y-bont ar Ogwr, ac adnabod rhai prif fylchau yng
ngwybodaeth ac ymwybyddiaeth pobl ifanc o ddiogelwch digidol a’r
Rhyngrwyd.
|
|
4.10pm |
Sesiwn Banel Holi ac Ateb gyda WISEKIDS, Anne Stoker, Ruth
Hammond, Rebecca Newton,
Karen Roberts a
Charlotte Aynsley |
|
4.40pm |
Crynhoi gan WISE KIDS a’r Cadeirydd |
|
4.50pm |
Y Diwedd |