|
8.15am |
Coffi a chofrestru |
|
9.00am |
Anerchiad croesawu i’r gynhadledd gan Alan Davies, y Cadeirydd
a’r MS ar gyfer y Gynhadledd |
|
9.10am |
Hen Offernewydd Dysgu – Prif anerchiad gan John Davitt (yn
cynnwys cwestiynau) |
|
10.00am |
Prif Anerchiad gan yr Athro Tanya Byron wedi’i recordio ar fideo |
|
10.20am |
Tri Chyflwyniad gan Aelodau y Panel Ieuenctid o Ysgol Tryfan |
|
10.35am |
EGWYL |
|
10.55am |
Holi ac Ateb: Panel Pobl Ifanc |
|
11.15am |
"Dim Byd!"...Bydoedd Rhithwir: Beth Mae Plant yn Wneud mewn
Meysydd Chwarae Ar-lein gan Rebecca Newton, Moshi Monsters |
|
11.30am |
Drama gan ddisgyblion o Ysgol y Preseli |
|
Cyfres Weithdai A
11.45pm - 12.45pm
|
|
1:
John Davitt: “Cadw’r dwylo’n brysur a rhyddhau’r meddwl –
strategaethau syml i wneud i ddysgwyr weithio gydag Offer Newydd”
Bydd y gweithdy hwn yn darparu cyfle ymarferol i archwilio rhai
ffyrdd newydd o ddysgu drwy ddefnyddio amrywiaeth o adnoddau a
gweithgareddau. Bydd y gweithdy hefyd yn dangos y defnydd o’r
“Generadur Digwyddiad Dysgu” sydd gan John a bydd cynrychiolwyr
yn derbyn eu copi eu hunain er mwyn parhau gyda’r gwaith hwn yn
ôl yn eu canolfannau. Bydd y sesiwn hon yn caniatáu i staff
fwynhau eu cromliniau dysgu eu hunain a dangos sut y mae’n bosib
rheoli datblygiadau newydd a pharhau i gael bywyd cymdeithasol!
|
|
2:
Tim Davies: Gwneud i Waith Ieuenctid Digidol Weithio
Archwilio’r dimensiynau gwahanol sydd i waith ieuenctid digidol
– o gydnabod a deall sut y dylai ymarferwyr fod yn ymwybodol o
effeithiau’r Rhyngrwyd yn eu hymarfer a’u gweithgareddau bob
dydd, i synied am ffyrdd newydd o weithio drwy dechnolegau
digidol. Bydd y sesiwn yn archwilio amrywiaeth o senarios lle
bydd offer digidol a gwaith gyda phobl ifanc yn gwrthdaro, ac yn
cynnig y cyfle i gyfranogwyr archwilio rhai o’r materion
ymarferol y mae angen i unrhyw un sy’n gweithio gyda phobl ifanc
roi ystyriaeth iddynt.
|
|
12.45pm |
CINIO
|
|
1.35pm |
Llythrennedd Digidol mewn tirlun sy’n newid
- Sangeet Bhullar, WISE KIDS
|
|
2.30pm |
Deall Ffyrdd o Fyw Digidol – sgiliau llythrennedd cyfryngol
plant a phobl ifanc gan Karen Roberts, Ofcom |
|
EGWYL: 2.45pm – 3.00pm
|
|
Cyfres Weithdai B
3.00pm - 4.05pm
|
|
1: Sesiwn Cyflwyno a Thrafod a gadeirir gan Paul Richardson
Graham Atwell: Denu diddordeb dysgwyr gyda dyfeisiadau symudol
Yn y sesiwn hon bydd Graham yn edrych ar y modd y bydd pobl
ifanc yn defnyddio meddalwedd cymdeithasol ac yn arbennig
dyfeisiadau symudol i gyfathrebu, gweithio a chwarae. Bydd yn
dyfalu pa dechnolegau symudol newydd allai gael eu mabwysiadu’n
y dyfodol a sut y gellid eu defnyddio. Bydd yn ystyried
goblygiadau gwneud hyn ar addysg a mynd yn ei flaen i archwilio
manteision ac anfanteision defnyddio dyfeisiadau symudol yn yr
ystafell ddosbarth. Yn olaf bydd yn cyflwyno rhai enghreifftiau
ymarferol o’r modd y defnyddir dyfeisadau symudol mewn
ystafelloedd dosbarth yng Nghymru.
Leon Cych: Y defnydd o Drochi (neu Fydoedd Rhithwir) i ddenu
diddordeb dysgwyr
Yn y gweithdy hwn bydd Leon yn amlinellu ac archwilio amrywiol
ddefnydd o Fydoedd Rhithwir. Bydd yn amlinellu’r hyn fydd raid i
chi ei wneud i fapio’ch prosiect a chodi diddordeb dysgwyr mewn
Amgylchedd Trochi; y peryglon i’w hosgoi, y cynllunio a’r
isadeiledd sydd ei angen er mwyn i bopeth fynd yn esmwyth. Bydd
yn tynnu ar ddigon o enghreifftiau o batrymau ar fideo o
brosiectau a gynhaliwyd gan addysgwyr eraill gan eu rhoi a
chysylltu â nifer o batrymau sydd ar-lein.
|
|
2: Sesiwn Cyflwyno a Thrafod a gadeirir gan Sangeet Bhullar
Ruth Hammond: Mesurau Ymarferol mewn eDdiogelu
Yn y sesiwn hon bydd Ruth yn archwilio pa brosesau y mae angen i
ysgolion a mudiadau neu sefydliadau eraill sy’n gweithio gyda
phobl ifanc eu sefydlu er mwyn rhoi grym i bobl ifanc a’u
diogelu.
Anne Stoker: E-ddiogelwch - Perspectif Awdurdod Lleol –
Creu Datrysiad Ymarferol
Bydd y sesiwn hon yn disgrifio’r strategaeth e-ddiogelwch
sydd wedi’i chreu ar gyfer Ysgolion
Castell- Nedd Port Talbot. Bydd yn
canolbwyntio ar y modd y creodd Castell-Nedd Port Talbot
ddatrysiad oedd yn gweddu i bawb oedd yn rhanddeiliaid, a
hynny’n caniatáu hyblygrwydd ar gyfer dysgu ac addysgu.
Sangeet Bhullar:
Rhaglen Ymwybyddiaeth o’r Rhyngrwyd Bl.7 Pen-y-bont ar Ogwr
Bydd y sesiwn hon yn cyflwyno trosolwg o’r hyfforddiant a
roddwyd gan WISE KIDS i ddisgyblion Blwyddyn 7 mewn 10 ysgol yn
ardal Pen-y-bont ar Ogwr, ac adnabod rhai prif fylchau yng
ngwybodaeth ac ymwybyddiaeth pobl ifanc o ddiogelwch digidol a’r
Rhyngrwyd.
|
|
4.05pm |
Sesiwn Banel Holi ac Ateb: Sangeet Bhullar, Anne Stoker, Ruth
Hammond,Lucinda Fell, Karen Roberts a Paul Richardson
|
|
4.35pm |
Crynhoi gan WISE KIDS a’r Cadeirydd |
|
4.45pm |
Y Diwedd |