|
Speaker
Biographies
Graham Attwell
Ymchwiliwr yw Graham Attwell yn gweithio i Pontydysgu, sefydliad ymchwil
a datblygu a leolir ym Mhontypridd. Mae ei ddiddordebau ymchwil yn
cynnwys datblygu a rhannu gwybodaeth, meddalwedd cod agored a’r defnydd
o feddalwedd cymdeithasol a gwe 2.0 ar gyfer addysgu a dysgu.
Yn ddiweddar
bu Graham yn gweithio ar y prosiect Ewropeaidd Mature IP ar y defnydd o
ddyfeisiau symudol ar gyfer dysgu.
Mae Graham
Attwell yn ysgrifennu ar gyfer cylchgronau a llyfrau ond mae’n well
ganddo wneud fideos ac ysgrifennu ar ei blog ei hun – y We Fyd Eang -
www.pontydysgu.org
Charlotte Aynsley, Cyngor y DU ar
Ddiogelwch Plant ar y Rhyngrwyd
Mae Charlotte
ar hyn o bryd wedi’i secondio o BECTA i arwain y gweithredu ar yr
argymhellion addysgol yn adroddiad y Dr Tanya Byron ‘Safer Children in a
Digital World’ drwy Gyngor y DU ar Ddiogelwch Plant ar y Rhyngrwyd
(UKCCIS). Mae hi’n gweithio gyda chadeirydd y gweithgor Addysg Well i
sicrhau bod yr argymhellion hyn yn cael eu gweithredu. Mae ei gwaith yn
cynnwys cydweithio ag asiantaethau cenedlaethol, adrannau’r llywodraeth
a diwydiant.
Yn ogystal â
gweithio ar dîm prosiect UKCCIS, Charlotte sy’n arwain strategaeth Becta
ar ddiogelu ar-lein sy’n golygu mai hi sy’n gyfrifol am gyngor a
chanllawiau Becta i ysgolion, awdurdodau lleol a llywodraeth leol.
Roedd hi’n
aelod gwreiddiol o Weithlu Gwarchod Plant ar y Rhyngrwyd yr Ysgrifennydd
Cartref a hi oedd yn rheoli’r is grŵp addysg, roedd hi hefyd yn aelod
o’r Bwrdd Sefydlu Gwarchod y Rhyngrwyd ac yn aelod o Fwrdd Ymgynghorol
Addysg Y Ganolfan Camfanteisio ar Blant a’u Hamddiffyn Ar-lein (CEOP).
Dr Sangeet Bhullar, Executive Director,
WISE KIDS
Sangeet yw
Sylfaenydd a Chyfarwyddwr Gweithredol WISE KIDS, sefydliad nid-er-elw
sy’n darparu rhaglenni hyfforddi ac ymgynghoriaeth arloesol ar
Dechnolegau Cyfryngau, Rhyngrwyd a Symudol, Hyfedredd, Llythrennedd a
Diogelwch y Rhyngrwyd. Yn Wladolyn Digidol hŷn, wedi’i hyfforddi fel
Peiriannydd Trydanol, mae hi’n credu’n gryf yn y potensial sydd gan
dechnolegau Rhyngrwyd a Symudol i weddnewid datblygiad addysg, ieuenctid,
cymuned a busnes.
Mae WISE KIDS yn cydweithio ag amrediad eang o bartneriaid sy’n cynnwys
Ysgolion, Colegau, Mudiadau Ieuenctid a Sefydliadau o fewn y Sectorau
Preifat a Chyhoeddus. Mae Sangeet hefyd ar nifer o grwpiau’r llywodraeth
a thu allan i’r llywodraeth lle bydd hi’n hyrwyddo Cynhwysiad Digidol a
Llythrennedd Cyfryngau Newydd. Mae’r rhain yn cynnwys y Rhaglen
Cymunedau 2.0 a gefnogir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, Partneriaeth
Diogelwch y Rhyngrwyd Cymru (hi yw’r Cadeirydd cyfredol), Cyngor y DU ar
Ddiogelwch Plant ar y Rhyngrwyd, Cyngor Cynulleidfa BBC Cymru, a Bwrdd
Ymgynghorol Addysg Y Ganolfan Camfanteisio ar Blant a’u Hamddiffyn
Ar-lein (CEOP). Bu’n siarad mewn cynadleddau, bu’n arholwr allanol, mae
hi wedi ysgrifennu canllawiau ac wedi darparu hyfforddiant ledled
Prydain,Singapôr a Malaysia. Gellir dod o hyd iddi ar Twitter fel
@sangeet.
Leon Cych
Leon Cych ar
hyn o bryd yw Cyfarwyddwr Learn 4 Life y DU ac mae’n arbenigo mewn
ymgynghori ar y defnydd effeithiol o dechnolegau newydd mewn busnes ac
addysg. Mae’n rhannu ei amser rhwng traddodi, rheoli prosiectau, ffilmio,
blogio a phodcastio gyda phrif arloeswyr yn sector addysg y DU, yn
arbennig defnydd ymarferwyr o dechnolegau Gwe 2.0 yn y sector addysg.
Mae’n
cyfrannu’n rheolaidd i’r blog Futurelab yn
http://flux.futurelab.org.uk
a hefyd mae’n cynnal Vlog a safle podcastio yn
http://www.L4L.co.uk.
Ei brosiect mawr newydd fydd hyrwyddo addysgu a dysgu ar gyfer athrawon
yn ‘Second Life’ fel rhan o brosiect BSF yn Salford. Mae ar hyn o bryd
yn gweithio fel gwneuthurwr ffilm ar gyfer Ysgolion Cod Agored ac yn
hyfforddi pobl mewn amgylcheddau trochi.
Alan Davies, Cadeirydd y Gynhadledd
Wedi’i eni yn
Llundain ym 1955, Cymro Cymraeg yw Alan a’i wreiddiau’n ddwfn yng
Ngorllewin Cymru. Mae nawr yn byw yng Nghaerdydd ac yn ŵr balch i Mari,
ac yn dad i ddau fab, Tomos a Tecwyn sy’n fyfyrwyr ym Mhrifysgol
Aberystwyth (2008).
Treuliodd Alan
18 mlynedd yn y Fyddin cyn cychwyn ar yrfa busnes llwyddiannus yng
Nghymru lle bu’n gysylltiedig â dechrau nifer o fusnesau a chreu
cannoedd o swyddi newydd mewn cwmnïau technoleg uwch.
Yn ystod un
o’r swyddogaethau hyn ef oedd cynrychiolydd NTL a Rhwydwaith Virgin o
fewn Sefydliad Gwarchod y Rhyngrwyd ac mae ganddo ddiddordeb personol
mawr yn y defnydd o dechnoleg mewn busnes a bywyd personol. Mae Alan yn
sylwebu’n gyson ar deledu a radio ar nifer o faterion, yn bennaf
gysylltiedig â’i brofiad militaraidd a’i ddealltwriaeth o dechnoleg.
Tim Davies, Practical Participation
Tim Davies yw
sylfaenydd a chyd gyfarwyddwr Practical Participation, ymgynghoriaeth
sy’n gweithio i hyrwyddo iawnderau dynol plant a phobl ifanc a
chysylltiad gweithredol pob dinesydd, hen ac ifanc, â’r penderfyniadau
sy’n effeithio ar eu bywydau. Yn ystod y tair blynedd diwethaf bu Tim yn
gyfrifol am amrediad o brosiectau ymchwil a dysgu gweithredol sy’n
archwilio’r defnydd o gyfryngau cymdeithasol yng ngwaith yr ifanc, a’r
mannau lle bydd pobl ifanc yn cyfranogi, gan gynnwys y prosiect ymchwil
Gwaith Ieuenctid a Rhwydweithio Cymdeithasol a setiau dysgu gweithredol
ar gyfryngau cymdeithasol mewn democratiaeth leol. Mae Tim ar hyn o bryd
yn astudio am radd MSc yng Ngwyddor Cymdeithasol y Rhyngrwyd yn yr
Athrofa Rhyngrwyd yn Rhydychen ac yn cynnal blog byw yn
http://www.timdavies.org.uk, ac yn Twitio drwy @timdavies.
John Davitt
Awdur,
darlledwr a gwneuthurwr offer digidol yw John Davitt. Mae wedi gweithio
yn y sector addysg am y pum mlynedd ar hugain diwethaf fel athro Saesneg,
uwch reolwr a chynghorydd rhanbarthol gyda Phrosiect Addysg Hyblyg yr
Undeb Ewropeaidd. Fel newyddiadurwr bu’n ysgrifennu i’r Guardian, y
Times a’r Observer, gan gyfrannu’n rheolaidd i’r Education Guardian.
Mae John wedi gweithio llawer gydag athrawon mewn ysgolion yn y DU, UDA,
Tsieina ac Affrica ac mae’n ymrwymedig i greu mwy o degwch o ran
mynediad i gyfleoedd dysgu newydd. Ef yw awdur “New Tools for Learning”
(2006) canllaw ymarferol ar sut i wneud i’r dechnoleg weddu i’r angen
addysgiadol, a’r gryno ddisg ‘WordRoot’ canllaw rhyngweithiol i eiriau
a’u hetymoleg. Mae’n ddiweddar wedi datblygu’r ‘Learning Score’ offeryn
gweledol sy’n caniatáu i athrawon fapio allan a rhannu bwriadau dysgu
fel digwyddiad graffigol – yn debyg i sgôr cerddorol. Ei brosiect mwyaf
diweddar yw’r Generadur Digwyddiad Dysgu tarddiad agored (http://legwork.pbwiki.com
) a’r Rag – offeryn dysgu rhyngweithiol ar gyfer yr ‘iPhone’ lle
gallwch yn llythrennol greu her ddysgu. Bydd ei lyfr newydd 'Setting
Learning Free - The Difference Engine runs again' yn cael ei gyhoeddi yn
ystod gaeaf 2009-10.
Dr Geoff Elliott
Mae Dr Geoff
Elliott wedi bod yn gweithredu ac ymchwilio ym maes technoleg dysgu ers
1992. Gorffennodd Geoff ei Ddoethuriaeth mewn Hypergyfryngau Addysgol ym
1999 a bu’n ddarlithydd yn y pwnc ym Mhrifysgol Morgannwg cyn mynd yn
rheolwr cynhyrchu’r prosiect arloesol eColeg Cymru gan gyflwyno graddau
mewn entrepreneuriaeth ar-lein yn 2001. Yn 2003 ymunodd Geoff â Choleg
Sir Benfro fel rheolwr technoleg dysgu lle’r arweiniodd ei waith o
ddatblygu’r systemau a hybu’r defnydd o dechnoleg dysgu at ennill nifer
o wobrau proffil uchel:
·
2006 gwobr Beacon FENC am y gwaith ‘Effective use of Learning Resources’
·
2005 gwobr Cymdeithas y Colegau / BECTA Beacon am y gwaith ‘Effective
use of ICT and e-learning to Enhance and Support Organisational
Development’
·
2004 gwobr NILTA ‘Management Learning Systems’
Mae gan Geoff
ddiddordeb mawr yn y defnydd o dechnoleg symudol i gefnogi a gwella
dysgu a bu’n arwain prosiect tair blynedd arloesol mewn defnyddio dysgu
symudol i ddenu diddordeb pobl ifanc NEETS yn ôl i addysg neu waith, a
chafodd gydnabyddiaeth am hyn yn y wobr FENC Beacon a ddyfarnwyd yn
2006.
Lucinda Fell
Ymunodd
Lucinda â Childnet ym mis Hydref 2007 gan gymryd y cyfrifoldeb am
Gyfathrebiadau a ffurfio ymatebion polisi Childnet yn ogystal â
chyfrannu at gynhyrchu a chyhoeddi prif adnoddau amrywiol.
Bydd Lucinda’n
rheolaidd yn cynrychioli barn Childnet mewn amrywiol gyfarfodydd a
fforymau polisi, yn y DU a hefyd yn rhyngwladol, gan hyrwyddo dull o
feddwl cytbwys i risgiau ar-lein, tynnu sylw at bwysigrwydd addysg ac
adnabod y cyfleoedd positif all ddod i bobl ifanc wrth fod â diddordeb
yn y byd ar-lein.
Mae Lucinda yn
aelod o Gyngor y DU ar Ddiogelwch Plant ar y Rhyngrwyd ac mae’n aelod o
nifer o’r gweithgorau a’r is grwpiau. Mae hi hefyd yn aelod o Weithlu
Rhwydweithio Cymdeithasol y Comisiwn Ewropeaidd.
Lucinda sy’n
arwain Prosiect Ieuenctid IGF Childnet, gyda’r bwriad o fynd â llais
pobl ifanc i Fforwm Llywodraethu’r Rhyngrwyd mandedig y Cenhedloedd
Unedig, a bu’n cydweithio’n agos â swyddogion Llywodraeth yn yr Aifft i
ddyfeisio rhaglen hyfforddi deunaw mis a chyflwyno sesiynau hyfforddi
llwyddiannus ar y pwnc e-ddiogelwch i bobl ifanc, rhieni a llywodraeth
yn yr Aifft fel rhan o’r Fenter Heddwch Seibr yr ymgymrwyd â hi gan
Fudiad Heddwch Rhyngwladol y Gwragedd Suzanne Mubarak.
Mae gan
Lucinda radd anrhydedd mewn Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol o
Brifysgol Birmingham a dyfarnwyd gwobr Cysylltiadau Rhyngwladol y
Brifysgol iddi.
Ruth Hammond, Rheolwr Diogelu Rhaglenni,
BECTA
Athrawes
raddedig yw Ruth â phrofiad ganddi o’r sectorau cynradd, uwchradd ac
Addysg Bellach. Ers ymuno â BECTA yn 2002 mae ei gwaith wedi golygu
cydweithio ag amrediad eang o asiantaethau cenedlaethol, adrannau’r
llywodraeth a chymdeithasau pwnc ar ymarfer effeithlon wrth ddefnyddio
TGCh. Ers 2003 mae gwaith Ruth wedi ffocysu ar gyngor BECTA’n ymwneud â
Diogelwch y Rhyngrwyd, gan gynrychioli BECTA ar Dasglu’r Ysgrifennydd
Cartref ar Warchod Plant ar y Rhyngrwyd, y Grŵp Llythrennedd y Cyfryngau
Seneddol Cysylltiol a gweithgor Addysg Well UKCCIS. Cafodd ei gwahodd
gan UCLAN i fod yn arholwr allanol ar y panel dilysu am Dystysgrif y
Brifysgol mewn Diogelwch Plant ar y Rhyngrwyd.
Secondiwyd
Ruth i CEOP cyn ei lansio ac mae hi’n dal i gydweithio’n agos â’u tîm
Addysg ac asiantaethau eraill sy’n ymdrechu i ddiogelu plant ar-lein.
Mae hi wedi cydweithio’n agos â TDA, Childnet Rhyngwladol a Microsoft i
gynhyrchu hyfforddiant e-ddiogelwch ar-lein ar gyfer darpar athrawon ac
athrawon cymwysedig.
Fiona Lennox, Ofcom
Fel un o brif
aelodau tîm llythrennedd cyfryngau Ofcom, mae Fiona yn gyfrifol am
ddatblygu rhaglen gynhwysfawr Ofcom ar ymchwil i lythrennedd y cyfryngau.
Mae hi’n parhau i fod yn un o brif arbenigwyr y DU ar ymchwil i
lythrennedd y cyfryngau a bydd yn rhoi cyflwyniadau ledled y DU ac Ewrop.
Mae hi’n aelod o Banel Ymchwil Arbenigol UKCCIS a bu’n allweddol yn
natblygiad llwyddiannus y Fforwm Ymchwil Llythrennedd y Cyfryngau
Rhyngwladol.
Ofcom yw’r
rheoleiddiwr annibynnol a’r awdurdod ar gystadlu ar gyfer diwydiannau
cyfathrebu’r DU, gyda chyfrifoldebau dros deledu, radio,
telegyfathrebiadau a gwasanaethau cyfathrebu diwifr. Mae’n ddyletswydd
ar Ofcom i hyrwyddo llythrennedd y cyfryngau dan Ddeddf Gyfathrebu 2003.
Cyn i Fiona
ymuno ag Ofcom yn 2003, hi oedd Pennaeth Safonau yn y Comisiwn Safonau
Darlledu. Mae ganddi radd mewn Gwyddorau Cymdeithasol a Gwleidyddol o
Brifysgol Caergrawnt.
Tamara Littleton, eModeration
Sefydlodd Tamara Littleton eModeration (www.emoderation.com)
yn 2002 ac wedi’i ddatblygu i fod yn un o asiantaethau safoni gorau’r
byd, ac ymhlith ei chleientiaid uniongyrchol mae MTV, ITV, Lifetime
Games, 02, ac ESPN yn ogystal â gweithio i brif asiantaethau megis
Ogilvy, Saatchi & Saatchi, Euro RSCG, Wieden a Kennedy a Publicis.
Daw Tamara o gefndir sefydlog mewn rheoli ansawdd golygu, cynnydd mewn
diffygion a rheoli prosesau, profiad a gafwyd wrth weithio’n flaenorol
fel Cyfarwyddwr Trosglwyddo Cynnyrch i Band Lydan Chello a Rheolwr
Gweithrediadau ar-lein y BBC lle bu hi’n rheoli tîm achrededig cyntaf
ISO 9000 dros reoli cyhoeddiadau digidol a monitro dros 400 0 wefannau’r
BBC. Mae ganddi radd mewn seicoleg a chefndir mewn ymgynghoriaeth a
chyhoeddi.
Yn aelod o Is Bwyllgor y Swyddfa Gartref sy’n cynghori’r Llywodraeth ar
safoni cymunedau i helpu i ddiogelu plant, mae hi ar hyn o bryd yn
adolygu’r canllawiau gyda’r Is Grŵp Safoni fel rhan o waith Cyngor y DU
ar Ddiogelwch Plant ar y Rhyngrwyd. Tamara hefyd oedd Cadeirydd emint
(2006-2007), y gymuned ar-lein ar gyfer gweithwyr proffesiynol cymunedol.
Bydd hi’n rheolaidd yn traddodi mewn cynadleddau ac yn cyfrannu at
bapurau gwyn er mwyn cynorthwyo dysgu a datblygu o fewn y diwydiant
cyfryngau cymdeithasol.
Rebecca Newton
Fel y Prif
Swyddog Cymuned a Diogelwch, mae Rebecca’n arwain polisi cyhoeddus,
cymuned, diogelwch, safoni ac ymdrechion gwasanaethau cwsmer yn Mind
Candy Inc. Cyn ymuno â Mind Candy, bu Rebecca’n gweithio yn Sulake.com (Gwestai
Habbo) fel Rheolwr Safoni, Swyddog Diogelwch a Chyfarwyddwr y Gymuned
lle roedd hi’n goruchwylio ymdrechion cymuned, safoni a diogelwch, mewn
24 gwlad dros safleoedd gemau/byd rhithiol yr arddegau mwyaf yn y byd.
Mae Rebecca hefyd yn gweithredu fel Ymgynghorydd Diogelwch i Crisp®, lle
bydd hi’n rhannu ei harbenigedd mewn diwydiant – o bolisïau arfer gorau
a rheoli setiau rheolau gwrth gamdrin Crisp®, i gynnig cyngor i
gleientiaid a chynorthwyo i hybu gwelliannau mewn cynnyrch ar draws yr
amrediad cynnyrch gan Crisp.
Cafodd gwaith
Rebecca ei gyhoeddi mewn sawl cyhoeddiad gan gynnwys Teen Magazine,
Yahoo! News, a Money Magazine a dogfen ganllaw ENISA "Children on
Virtual Worlds: What Parents Should Know". Mae hi’n siarad yn rheolaidd
ar Ddiogelwch y Rhyngrwyd, Gwe 2.0 a Rhwydweithio Cymdeithasol (Cynhadledd
Ymwybyddiaeth ENISA yr UE, Austin a SF GDC, 3edd Gynhadledd Flynyddol
FOSI, Cynhadledd SIA cyn Cyngres UDA, SXSWi, Cynhadledd Rheoleiddiol
Kids Watch, Uwchgynhadledd Fusnes NFL.com, Cynhadledd SWGfL. Roedd hi
hefyd yn siaradwraig wadd yng Nghynhadledd Gwarchod Plant ar-lein yn
Llundain.
Helen Penn
Mae Helen wedi gweithio llawer o fewn arena amddiffyn plant a diogelwch
y rhyngrwyd yn y DU a’r byd datblygedig. Gyda chefndir mewn dysgu a
gweithio gyda phobl ifanc ymunodd â Childnet Rhyngwladol yn 2003 i
reoli eu rhaglenni addysg a’u hymestyn cyn cael ei secondio i’r Sgwad
Troseddu Cenedlaethol yn 2005. Yma hi oedd yn arwain ar ddatblygu
rhaglen Ddysgu ar gyfer y Gweithlu Byd Eang Rhithiol a chreu
agendaThinkuknow CEOP.
Mae Helen yn
awr yn bennaeth ar adran Addysg CEOP, gan greu rhaglenni newydd sydd
wedi ennill gwobr,ar gyfer pobl ifanc, rhieni, addysgwyr a gwŷr
proffesiynol gan ddefnyddio gwybodaeth o achosion cenedlaethol a
rhyng-genedlaethol. Erbyn hyn mae dros 5 miliwn o blant ledled y byd
wedi gweld y rhaglen Thinkuknow a thros 39,000 o wŷr proffesiynol yn
ymwneud â’i dangos. Mae Helen hefyd yn aelod o grŵp Addysg Well UKCISS
ac yn traddodi’n genedlaethol a rhyngwladol ar warchod plant ar-lein.
Christina Preston
Mae Christina
Preston yn cael ei hadnabod fel hyrwyddwr ffyrdd o ddysgu cydweithredol,
adeiladol a rhyngweithiol wedi’i danategu gan dechnolegau digidol. Mae
hi’n benodol wedi ymchwilio’r ffyrdd y bydd cymunedau ymarfer
proffesiynol yn rhannu gwybodaeth ac yn dylanwadu ar agenda lleol,
cenedlaethol a rhyngwladol. Mae hi wedi ennill tair gwobr rhyngwladol am
ei gwaith yn y maes hwn, Gwobr Ddyngarol Undeb Ewropeaidd y Gwragedd; y
fedal Trnkova a Gwobr Ddyngarol Cyngor Academaidd y Byd.
Mae meysydd
ymgynghoriaeth arbenigol Christina a’r hyn a gyhoeddwyd ganddi yn ymdrin
â modelau Arloesol ar gyfer Datblygiad Proffesiynol Parhaus gyda
phwyslais ar ddysgu seiliedig ar waith; partneriaeth addysg diwydiant;
methodolegau ymchwil arloesol yn cynnwys mapio cysyniad amlddimensiynol
ac ymchwil digwyddiad critigol; theori sy’n ymddangos, Dysgu Plethedig,
am greu gwybodaeth a’i ledaenu mewn Cymunedau Ymarfer : ac e-ddinasyddiaeth
y byd.
Mae hi wedi
gweithio’n rhyngwladol fel athrawes uwchradd, wedi addysgu athrawon,
wedi bod yn ymgynghorydd rhanbarthol, yn uwch ymchwilydd ac yn
gyfarwyddwr prosiect. Mae ei chleientiaid yn cynnwys cwmnïau ledled y
byd, asiantaethau’r llywodraeth ac elusennau yn Affrica, Dwyrain a
Gorllewin Ewrop, America Lladinaidd, y Dwyrain Canol a’r Dwyrain Pell.
Dr Paul Richardson, RSC Cymru
Biolegydd ac
athro yw Paul Richardson sydd wedi hyrwyddo a chefnogi eddysgu ers1998.
Fel aelod o’r Ganolfan Dechnoleg Dysgu ym Mangor, roedd yn cefnogi’r
defnydd o ePortffolios gan nyrsys dan hyfforddiant, a chyfrannodd hefyd
i’r prosiect SoURCE ar feddalwedd y gellir ei ailddefnyddio, mewn
cydweithrediad â’r Brifysgol Agored. Roedd ganddo hefyd gysylltiad agos
â gradd rhan-amser ar-lein arloesol (B.A. mewn Rhyngrwyd, Dysgu a
Sefydliadau). Yn dilyn cyfnod fel Pencampwr Technoleg Gwybodaeth a Dysgu
gyda Chymdeithas Addysg y Gweithwyr Coleg Harlech, mae yn awr yn
Ymgynghorydd eDdysgu i sectorau Dysgu Cymunedol i Oedolion a Chyfiawnder
Troseddol ar y Cydbwyllgor Systemau Gwybodaeth (JISC) Canolfan Gefnogi
Ranbarthol Cymru. Mae hefyd yn Ddarlithydd Cysylltiol yn y Brifysgol
Agored, yn hyrwyddo modiwl ar-lein mewn Gwyddor Amgylcheddol.
Karen Roberts, Cydlynydd Cyhoeddiadau a
Chyfryngau Newydd Cymru, Ofcom
Mae Karen yn
gyfrifol am weithrediad cylch gwaith Llythrennedd Cyfryngau Ofcom yng
Nghymru. Hi sy’n cadeirio Rhwydwaith Llythrennedd yn y Cyfryngau Cymru –
sy’n dwyn ynghyd sefydliadau sy’n meddu ar agenda llythrennedd a
chynhwysiant i rannu arfer gorau, hyrwyddo dealltwriaeth o lythrennedd y
cyfryngau ac yn y pendraw darparu’r sgiliau a’r wybodaeth berthnasol fel
bod pobl yn medru cyfranogi mewn cymdeithas ddigidol.
Cyn ymuno ag
Ofcom, Karen oedd Swyddog y Cyfryngau a Materion Cyhoeddus i’r Comisiwn
Teledu Annibynnol yng Nghymru. Cyn hynny bu mewn cyfres o swyddi i’r
wasg a materion cyhoeddus o fewn llywodraeth leol a sefydliadau’r sector
gyhoeddus a phreifat. Mae ganddi ddiploma ôl-raddedig mewn
Cysylltiadau’r Cyhoedd a’r Cyfryngau o Ganolfan Astudiaethau
Newyddiaduraeth, Prifysgol Caerdydd ac yn raddedig o Brifysgol
Manceinion, lle bu’n astudio ar gyfer BA (Anrhydedd) mewn Astudiaethau
Americanaidd. Treuliodd flwyddyn yn astudio newyddiaduraeth ym
Mhrifysgol Missouri, Columbia.
Anne Stoker
Ganwyd Anne Stoker yn Essex a symudodd i Gymru pan oedd yn 6 oed. Bu
diddordeb ganddi mewn technoleg ers ei chyfnod yn yr ysgol uwchradd, gan
fod yn un o’r rhai cyntaf i sefyll Gwyddoniaeth Cyfrifiadurol Safon Uwch
yn ei hysgol, ac yn ddiweddarach enillodd radd mewn Cyfrifeg a
Gwyddoniaeth Cyfrifiadurol.
Fel athrawes
ysgol gynradd roedd hi’n arbenigo mewn dysgu Mathemateg, gan gymryd rôl
cydlynydd TGCh ac YC mewn nifer o ysgolion yng Nghymru. Yn dilyn
secondiad i weithio ar Bartneriaeth ar-lein Bae Abertawe fel Hwylusydd y
Gronfa Cyfleoedd Newydd (NOF) daeth yn Ymgynghorydd athrawon ac yna’n
Ymgynghorydd TGCh i Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-Nedd Port Talbot.
Am y flwyddyn
ddiwethaf cafodd Anne ei secondio’n rhan amser i Lywodraeth y Cynulliad,
i weithio i gangen strategaeth TGCh yn PADGOS (DCELLS). Bu’n
canolbwyntio fwyaf ar roi Fframwaith Hunan Arfarnu BECTA ac e-ddiogelwch
ar waith.
Yn ystod y
cyfnod hwn bu’n gweithio ar strategaeth e-ddiogelwch ar gyfer ysgolion
yng Nghastell-Nedd Port Talbot a datblygiad Porth Dysgu Castell-Nedd
Port Talbot.
Mae hi o
ddifri ynghylch addysg a photensial TGCh fel offeryn trawsnewid ac yn
arddel pwysigrwydd hyfforddiant a chefnogaeth o ansawdd da.
David Wilcox
Yn gyd awdur
Social by Social, canllaw i ddefnyddio technoleg cymdeithasol er mwyn
creu effaith gymdeithasol, ac yn gyd-westeiwr y gymuned ar-lein
gysylltiol ‘socialbysocial.net’. Yn y gorffennol bu’n gweithio fel
newyddiadurwr, ac fel arbenigwr mewn denu diddordeb o fewn y gymuned a
phatneriaethau adfywio. Mae yn awr yn cyfuno’r profiad hwn fel gohebydd
cymdeithasol, gan ddefnyddio ystod o ddulliau gwahanol ar-lein ac oddi
ar-lein i symbylu sgyrsiau, adrodd straeon a chynorthwyo eraill i wneud
yr un peth.
|